Subscribe to Newsletter




Email to a friend




Home > Cymraeg > Ein Cyraeddiadau ac Partneriaid

Ein Cyraeddiadau ac Partneriaid

 

Ein Cyraeddiadau

Mae Caerdydd ar y Cyd yn parhau i fod yn gwmni ifanc ar hyn o bryd, ond mae wedi bod yn adeiladu ar ei allu a’i weithgareddau er mwyn cwblhau ei agenda uchelgeisiol. Ymysg ei lwyddiannau mae:
 
• Datblygu a lansio Rhaglen Llysgennad Caerdydd sydd wedi’i chynllunio i annog unigolion i fod yn hyrwyddwyr cryf dros y ddinas
• Cynhyrchu Adnoddau marchnata ar gyfer y ddinas, gan gynnwys DVD hyrwyddol a llyfrgell luniau
• Cynhyrchu Canllaw i Fuddsoddwyr Posibl sy’n rhoi gwybodaeth drylwyr ar bob agwedd ar ranbarth dinas Caerdydd, gan gynnwys ei marchnad lafur, seilwaith trafnidiaeth, system Addysg, sector eiddo masnachol, marchnad dai ayb.
• Meithrin perthnasoedd cryf â gwestywyr y ddinas a thwf aelodaeth Rhwydwaith Twristiaeth Caerdydd i 141 o gwmnïau a sefydliadau
• Cynhyrchu incwm busnes twristiaeth o dros £1m ar gyfer rhanbarth dinas Caerdydd ar gyfer y flwyddyn ariannol 2008-09
• Cynhyrchu ymdriniaeth yn y Cyfryngau o tua £750mil ar gyfer rhanbarth dinas Caerdydd ar gyfer y flwyddyn ariannol 2008-09
• Annog bron i 1m o ymwelwyr i gasgliad o wefannau Caerdydd ar y Cyd yn ystod 2008-09, gan gynnwys www.croesocaerdydd.com  
 
Mae Caerdydd ar y Cyd yn hyderus y bydd yn llwyddo i wella ar y cyraeddiadau uchod ac yn llwyddo i’w cyflawni'n gynt yn ystod 2009-10 gan fod ganddo fwy o allu erbyn hyn ac wedi cryfhau gweithio mewn partneriaeth yn y ddinas.
 

Ein Partneriaid

Mae gweithio mewn partneriaeth, cydweithio a gwireddu gweledigaeth a phwrpas gyfunol yn gorwedd wrth wraidd ymdriniaeth newydd Caerdydd ar y Cyd a Chaerdydd i farchnata a hyrwyddo’r ddinas. Er mwyn i Gaerdydd ar y Cyd fod yn gynaliadwy, rhaid iddo ddenu buddsoddwyr a chyfranwyr yn llwyddiannus a chreu incwm ychwanegol trwy weithgareddau masnach i godi cyllid gweithredol y cwmni.
 
Blaenoriaeth allweddol ar gyfer y cwmni fydd rheoli perthnasoedd yn ofalus â rhanddeiliaid allweddol lleol ac Aelodau sy’n Buddsoddi er mwyn darparu gofynion cytundebol yn effeithiol.
 

Nodau ac Amcanion

Amcanion gweithio mewn partneriaeth Caerdydd ar y Cyd yw:
 
  • Codi incwm/adnoddau trwy ddenu rhanddeiliaid lleol a’r sector preifat i fuddsoddi’n uniongyrchol yn y Cwmni. 
    Cysylltu’n broffesiynol a phwrpasol â’r sector preifat trwy amrywiaeth o gynlluniau a chyfleoedd masnachol i sicrhau ffioedd a chyfraniadau.
  • Rheoli a hyrwyddo systemau ennill incwm er enghraifft Chaser (system archebu dirprwyo llety ar-lein), Gwasanaeth Lleoliad (VLS), a System Rheoli Cyrchfan (DMS).
  • Rheoli perthnasoedd â phartneriaid allweddol ac Aelodau sy'n Buddsoddi er mwyn sicrhau y caiff gofynion cytundebol eu darparu’n effeithiol.

Partneriaeth

I gael rhagor o wybodaeth am bartneriaeth, cysylltwch â:
E-bost: enquiries@cardiffandco.com
Ffôn: +44(0)29 2087 1847


 

Cyngor Caerdydd ac Awdurdod Harbwr CaerdyddCyngor CaerdyddAwdurdod Harbwr Caerdydd

Mae Cyngor Caerdydd ac Awdurdod yr Harbwr yn buddsoddi £500mil y flwyddyn yng Nghaerdydd ar y Cyd ac mae’n chwarae rôl allweddol yng nghynlluniau a strategaethau’r cwmni. Mae Strategaeth Economaidd Cyngor Caerdydd – Cyfalaf Cystadleuol – yn gosod y fframwaith y mae’r cwmni yn gweithredu oddi mewn iddo ac yn nodi’r sectorau economaidd allweddol ar gyfer y ddinas. Cynrychiolir y Cyngor ar Fwrdd Strategol Caerdydd ar y Cyd gan y Cynghorwyr Neil McEvoy a Mark Stephens.
 

Cymdeithas Gwestywyr CaerdyddCymdeithas Gwestywyr Caerdydd

Mae Cymdeithas Gwestywyr Caerdydd yn cynnwys 21 gwesty a thua 5,500 o welyau yn y ddinas. Mae’r Gymdeithas a Caerdydd ar y Cyd yn gweithio’n agos i hyrwyddo’r ddinas a denu digwyddiadau a chynadleddau mawr i’r ddinas. Fel rhan o’r ymdrechion hyn, mae’r Gymdeithas a Chaerdydd ar y Cyd wedi uno mewn partneriaeth ac o ganlyniad, fe benodwyd Rheolwr Swyddfa Cynhadledd a ariennir ar y cyd rhwng y ddau barti. Yn ogystal, mae’r Gymdeithas a Chaerdydd ar y Cyd wedi uno â Stadiwm y Mileniwm i lansio Ymrwymiad Caerdydd – dogfen adduned sydd wedi'i chynllunio i ychwanegu at enw da Caerdydd fel prifddinas digwyddiadau mawr.


Fforwm Eiddo Masnachol CaerdyddFforwm Eiddo Masnachol Caerdydd

Sefydlwyd Fforwm Eiddo Masnachol Caerdydd yn 2004 fel llais cyfunol ar gyfer y sector eiddo yn y rhanbarth, cydnabod pwysigrwydd y brifddinas i lywio buddsoddiad a ffyniant economaidd, nid yn unig dros y rhanbarth, ond i Gymru gyfan. Roedd Caerdydd ar y Cyd yn noddi un o’r categorïau yng Ngwobrau Prop y Fforwm 2008 ac mae’r ddau sefydliad yn adeiladu partneriaeth effeithiol yn seiliedig ar y nod cytûn rhyngddynt o hybu Caerdydd fel lleoliad o’r radd flaenaf ar gyfer buddsoddi a busnes.

 

Llywodraeth y CynulliadLlywodraeth y Cynulliad

Mae Caerdydd ar y Cyd yn gweithio gyda Llywodraeth y Cynulliad ar fentrau marchnata ad hoc sydd wedi'u hanelu at godi hyder buddsoddwyr yn y ddinas a chodi ei phroffil fel lleoliad twristiaeth busnes a hamdden. Bydd y project mawr a fydd yn digwydd mewn partneriaeth yn ystod 2009 yn broject a ariennir ar y cyd gyda’r Financial Times a fydd yn cynnwys cyhoeddi atodiad golygyddol o’r enw “Doing Business in Cardiff and Wales” a digwyddiad ym mhencadlys yr FT yn Llundain sydd wedi’u hanelu at Gadeiryddion a Phrif Weithredwyr y cwmni FTSE 350.
 

Stadiwm y Mileniwm cccStadiwm y Mileniwm ccc

Mae Stadiwm y Mileniwm yn un o’r tri sylfaenydd a lofnododd Ymrwymiad Caerdydd – y ddogfen adduned sydd â’r nod o ddenu digwyddiadau a chynadleddau mawr i'r ddinas. Mae’r stadiwm yn unigryw gan ei bod yn dal 74,500 o bobl, mae ganddo do sy'n tynnu'n ôl ac mae wedi ei leoli yng nghanol y ddinas. O ganlyniad, mae’n ffurfio rhan allweddol o ymdrechion hyrwyddo Caerdydd ar y Cyd ac yn caniatáu’r i’r ddinas osod ei hun yn hyderus ymhlith dinasoedd digwyddiadau gorau'r byd.

Criced MorgannwgCriced Morgannwg

Mae Caerdydd ar y Cyd yn gweithio’n agos gyda Chriced Morgannwg, Cyngor Caerdydd a Llywodraeth y Cynulliad i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd marchnata sy’n cael eu cynnig o fod yn gartref i’r Gem Brawf gyntaf yng Nghyfres y Lludw nPower 2009. Bydd Caerdydd ar y Cyd yn parhau i weithio gyda Chriced Morgannwg a phartneriaid eraill wrth iddynt weithio i ddenu gemau eraill proffil uchel i’r ddinas dros y blynyddoedd nesaf.
 

Rhwydwaith Twristiaeth CaerdyddRhwydwaith Twristiaeth Caerdydd

Mae Rhwydwaith Twristiaeth Caerdydd, Caerdydd ar y Cyd yn cynnwys 201 o fusnesau a sefydliadau sydd wedi ymuno fel aelodau sy’n talu yn gyfnewid am gasgliad o fuddiannau amlwg sy'n cynnwys mynediad i offer hyrwyddo Caerdydd ar y Cyd. Mae’r Rhwydwaith yn cwrdd bedair gwaith y flwyddyn ac yn rhoi mewnbwn i weithgareddau a strategaethau Caerdydd ar y Cyd. Cewch ragor o wybodaeth am Rwydwaith Twristiaid Caerdydd yma. (Mae’n ddrwg gennym, nid yw’r dudalen hon ar gael yn y Gymraeg ar hyn o bryd.)