Ein Bwrdd
Cafodd Caerdydd ar y Cyd ei ymgorffori ar 14 Mai 2007, ac fe gytunwyd i’w wneud yn bartneriaeth breifat gyhoeddus ‘ddim er elw’. Llywodraethir Caerdydd ar y Cyd gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr sy’n cael ei alw’n Fwrdd Strategol. Caiff gweithgareddau gweithredol a chynlluniau gwaith sy’n ymwneud â swyddogaethau craidd y cwmni eu cyfarwyddo gan Fyrddau Sector.
Y Bwrdd Strategol
Mae Bwrdd Strategol Caerdydd ar y Cyd yn cynnwys hyd at 12 Cyfarwyddwr, rhestrir yr aelodau presennol isod. Mae’r Bwrdd yn bennaf cyfrifol am gymeradwyo’r gyllideb flynyddol ac yn geidwad i Gynllun Busnes y cwmni. Mae ganddo rôl allweddol hefyd i wahodd cyfraniadau cyllidol gan noddwyr tuag at weithredu’r cwmni.
Cadeirydd
Mae Adrian Clark wedi’i benodi yn Gadeirydd.
Noreen Bray
Noreen Bray yw cadeirydd Good Relations Wales, sef cangen Cymru o’r Grŵp Bell Pottinger, un o wasanaethau ymgynghori cysylltiadau cyhoeddus mwyaf blaenllaw y Deyrnas Unedig. Sefydlodd Noreen swyddfa gyntaf y cwmni tu allan i Lundain yng Nghaerdydd bron i 20 mlynedd yn ôl.
Dywedodd ei bod yn falch iawn o gael ymuno â’r bwrdd ar adeg mor gyffrous i’r ddinas. “Rydw i wedi bod yn ffodus iawn i allu datblygu fy ngyrfa yn y ddinas lle fy magwyd ac mae'n wych gweld cymaint o gynnydd mewn blynyddoedd diweddar i godi proffil Caerdydd.”
Patrick Duffy
Mae Mr Duffy wedi bod yn astudio gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes yn Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd yn dilyn ei swydd fel Rheolwr Gyfarwyddwr is-adran werthiannau Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub. Ganwyd Patrick yn Iwerddon ac mae wedi bod yn preswylio ym Mro Morgannwg ers dros bum mlynedd.
Dr David Grant CBE, FREng, FIEE
Mae Dr Grant wedi bod yn Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd ers 2001, yn dilyn nifer o swyddi arweiniol mewn busnesau rhyngwladol.
Bu’n gyfrifol am arwain y broses gyfuno rhwng Prifysgol Caerdydd a Choleg Meddygaeth Prifysgol Cymru gan greu prifysgol ymchwil ddwys, fawr sydd hefyd yn un o’r prifysgolion mwyaf poblogaidd ym Mhrydain ymhlith myfyrwyr israddedig.
Ar hyn o bryd, mae Dr Grant yn Gadeirydd ar Bedwarawd Caerdydd, corff cynrychiolaidd dros addysg uwch yng Nghaerdydd.
Rob Jones
Mae Rob Jones yn Bartner yn swyddfa ymgynghorwyr eiddo byd-eang, Knight Frank LLP yng Nghaerdydd, lle mae’n gyfrifol am gyngor buddsoddi yn ogystal â gweithio ar nifer o brojectau adfywio.
Mae Rob wedi bod yn llwyddiannus wrth werthu a chaffael nifer o gyfleoedd buddsoddi blaenllaw ar gyfer cleientiaid cronfa pensiwn yng Nghaerdydd, a fu'n gyfrifol am weld Knight Frank yn rhan o Bartneriaeth Bae Caerdydd (lle bu'n gweithredu ar ran Morley Fund Management) sydd â gwerth presennol o tua £150 miliwn, Rhan 2 o Ganolfan y Mileniwm yn ogystal â Sgwâr Callaghan.
Dywedodd: ‘Bydd y datblygiadau llwyddiannus ym Mae Caerdydd a Sgwâr Callaghan, yn ogystal â Dewi Sant 2 yn gwneud gwahaniaeth mawr i Gaerdydd fel prifddinas yn Ewrop. Rhagwelir cynlluniau adfywio a pharc busnes pellach ac mae’n sylfaenol bwysig bod Caerdydd ar y Cyd yn codi proffil y ddinas er mwyn eu galluogi i gystadlu â dinasoedd Ewropeaidd eraill sydd hefyd yn awchu am dyfiant economaidd cynaliadwy.'
Y Cynghorydd Neil McEvoy
Y Cynghorydd Neil McEvoy yw Dirprwy Arweinydd Plaid Cymru yng Nghyngor Caerdydd ac mae ganddo gyfrifoldeb portffolio dros Ddatblygiad Economaidd ar Weithrediaeth y Cyngor. Mae’n cynrychioli Cyngor Caerdydd ar Fforwm Economaidd De-ddwyrain Cymru ac mae hefyd yn Gadeirydd Canolfan Technoleg Busnes Caerdydd Cyf. Mae hefyd yn aelod o fwrdd Bws Caerdydd ac yn gyfarwyddwr Business in Focus Ltd.
Yn flaenorol bu’r Cynghorydd McEvoy yn athro ac yn ddarlithydd. Mae'n gallu siarad Ffrangeg a Sbaeneg yn rhugl, ac yn ddysgwr Cymraeg uwch. Fe’i addysgwyd mewn prifysgolion yn Portsmouth, Nancy (Ffrainc) a Zaragoza (Sbaen), lle bu’n astudio ieithoedd modern, gwleidyddiaeth, economeg a hanes. Enillodd gymwysterau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe hefyd.
Yn ogystal â’i swyddogaethau etholedig fel cynghorydd cymunedol dros y Tyllgoed a chynghorydd cymuned dros Sain Ffagan, mae’r Cynghorydd McEvoy wedi bod yn gweithredu’n gymunedol bob amser, gan gadeirio nifer o ymgyrchoedd amgylcheddol, yn ogystal â Fforwm y Tyllgoed a Phentre-baen ac yn flaenorol, Undeb Credyd y Tyllgoed. Mae’n gefnogwr brwd o’r Adar Gleision ac mae diddordeb ganddo yn y rhan fwyaf o chwaraeon, gan gynnwys bocsio a rygbi.
Y Cynghorydd Mark Stephens
Mae’r Cynghorydd Mark Stephens wedi cynrychioli adran Plasnewydd yng Nghaerdydd ers 2004. Ef yw’r Aelod dros Gyllid ar Weithrediaeth y Cyngor ac mae'n cynrychioli'r Cyngor ar Fwrdd Business in Focus, Fforwm Economaidd De-ddwyrain Cymru a Chonsortiwm Pwrcasu Cymru ac yn Gadeirydd Canolfan Technoleg Busnes Caerdydd Cyf a Chyd-fenter Medicentre Caerdydd.
Byrddau’r Sector
Rheolir cynlluniau gwaith y cwmni trwy dri Bwrdd Sector: Delwedd a Brandio, Datblygiad Economaidd, a Thwristiaeth. Mae pob Bwrdd Sector yn cynnwys arbenigwyr ar lefel uwch yn y meysydd perthnasol sy’n cynnwys Aelodau sy’n Buddsoddi a rhanddeiliaid allweddol lleol eraill. Mae’r Byrddau Sector yn adolygu gweithredu gweithgareddau’r flwyddyn bresennol, gan alluogi’r Bwrdd Strategol i ganolbwyntio ar faterion ac arweiniad strategol ehangach.
Mae Grŵp Cyllid a Dibenion Cyffredinol y cwmni yn cynorthwyo’r Bwrdd Strategol i ystyried materion cyllid a chaffael ac yn gyfrifol am weithredu fframwaith priodol ar gyfer dirprwyaeth gyllidol a systemau rheoli.


































